Glenys LloydJONESYn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar y 7fed o Fawrth 2025, yn 94 mlwydd oed, gynt o Garwyn, Manod, Blaenau Ffestiniog. Mam a mam yng nghyfraith annwyl i Gwyn a Siri, Gareth a Mererid. Nain annwyl i Tillie, Iolo, Rhun, Gruff, Seb ac Anya a hen nain i Kai. Chwaer i'r diweddar Elwyn Lloyd Williams, Minffordd. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Bethel, Llan Ffestiniog, dydd Iau, Ebrill 3ydd, am 11.00 y bore ac i ddilyn ym Mynwent Llan Ffestiniog. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Dementia Actif Gwynedd trwy law yr Ymgymerwyr
Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH
01766 512091 - post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Glenys